Cangen ryngwladol o’r Ymddiriedolaeth Ysgolion ac Academiau
Arbenigol yw iNet (International Networking for Educational
Transformation/Rhwydweithio Rhyngwladol er mwyn Trawsnewidiad
Addysgol). Mae pob ysgol ac academi sydd â chysylltiad
ffurfiol â’r Ymddiriedolaeth hefyd yn aelod o iNet. Trwy’r
rhwydwaith ryngwladol gynyddol ei maint, mae gan ysgolion ac
academiau gyfle i ymwneud ag ysgolion cyffelyb yn rhyngwladol, gan
ysbrydoli athrawon a myfyrwyr i rannu dyfeisgarwch ac i
gydweithio. I ddarganfod mwy am rwydwaith YYAA/SSAT ewch i
safle
rhwydwaith ysgolion.